Am bob swydd ar Archebwr Athrawon, cynhyrchir taflen amser. Mae’r daflen amser yn adio’r holl ddiwrnodau a weithiwyd mewn wythnos a bydd angen i aelod o staff awdurdodedig o’r ysgol ‘Cymeradwyo’r Daflen Amser’.
***Cofiwch: Os postiwyd eich swydd fel un ‘Dyddiadau i’w Penderfynu’, bydd angen i chi ychwanegu taflenni amser am y dyddiadau perthnasol – ewch i sut i ychwanegu taflenni amser****
Gallwch lywio i daflenni amser mewn tair ffordd
Dewis ‘Taflenni Amser’ o’r ddewislen ar yr ochr cyn llywio i’r wythnos berthnasol
Chwilio yn ôl ‘Cyfeirnod Swydd’ neu ‘Cyfeirnod Taflen Amser’ ar y Dangosfwrdd Cyflenwi.
Dylech yna lywio i’r dudalen ‘Manylion Swydd’ ar ôl i swydd gael ei harchebu.
Mae’n bosib golygu pob taflen amser yn ddyddiol, AM/PM neu fesul awr. Gallwch ychwanegu diwrnodau ychwanegol i daflen amser wythnos, nodi diwrnod o salwch pan oedd gweithiwr yn absennol, neu ddileu diwrnod o’r daflen yn llwyr.
Pan fydd y daflen amser yn gywir am yr wythnos sydd newydd gael ei chwblhau, bydd angen ‘Cymeradwyo’r Daflen Amser’ i gadarnhau bod y wybodaeth yn gywir.