Adolygu ymgeiswyr a gwneud Cynigion

Y camau olaf i archebu swydd gyflenwi.

James Lipscombe avatar
Written by James Lipscombe
Updated over a week ago

Pan fydd ymgeisydd yn ymgeisio, byddwch yn derbyn e-bost. Dylech fewnlofnodi a chlicio ar y swydd i weld pwy sydd wedi ymgeisio ac i adolygu eu proffil.

Wrth glicio ar ‘Adolygu Ymgeisydd / Cynnig Swydd’, fe welwch yr opsiwn Tracio Ymgeisydd, manylion cyswllt yr ymgeisydd a’r botwm ‘Cynnig’.

***Cofiwch wneud eich Cynigion mewn da bryd cyn dyddiad / amser dechrau’r swydd os yw’r dyddiad / amser yn benodol. Os yw’r dyddiad / amser dechrau yn pasio cyn Derbyn Cynnig, bydd y swydd yn Dod i Ben.***

Bydd newid y statws Tracio Ymgeisydd yn newid y label ‘Wedi Ymgeisio’ ar y sgrîn flaenorol – er enghraifft i ‘Sgrinio dros y Ffôn’ fel yr eglurir isod. Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd i chi sgrinio ymgeiswyr cyn cynnig swydd, ond dewisol yn unig yw’r opsiwn hwn ac nid oes raid i chi wneud hyn.

Pan fyddwch yn barod i wneud Cynnig, cliciwch ar ‘Cynnig’. Bydd hyn yn anfon e-bost a neges SMS i’r athro / athrawes yn dweud bod angen Derbyn y Cynnig i’w harchebu. Gallwch anfon mwy nag un Cynnig – os felly, yr athro / athrawes gyntaf i ymateb a archebir. Ar ôl archebu athro / athrawes, ni all athrawon eraill dderbyn Cynnig nag ymgeisio.

Ar ôl i’r athro / athrawes dderbyn y swydd, anfonir e-bost i’ch hysbysu. Bydd y bar statws ar ben y swydd yn troi’n wyrdd a dangos ‘Athro / Athrawes wedi’i Archebu’.

Did this answer your question?