Archebu Swydd Gyflenwi

Ar gyfer ysgolion: sut i bostio swydd, derbyn ceisiadau, cynnig swydd a derbyn cadarnhad bod athro neu athrawes wedi’i archebu.

James Lipscombe avatar
Written by James Lipscombe
Updated over a week ago

***Cofiwch fod dyrannu athro / athrawes i swydd yn broses dau gam. Y cam cyntaf yw anfon gwahoddiad i athrawon i Ymgeisio am eich swydd, yr ail yw Cynnig swydd i’r ymgeisydd a’r athro / athrawes wedyn yn Derbyn.

Ni fydd athro / athrawes wedi’i archebu nes iddynt Dderbyn y Cynnig. Ar ôl Derbyn, byddwch yn cael cadarnhad a bydd y swydd yn dangos yn glir ar eich dangosfwrdd fel ‘Athro / Athrawes wedi’i Archebu’.***

Yn gyntaf, ewch i ‘Postio Swydd Gyflenwi’ o’r ddewislen ar y chwith.

Yna nodwch eich meini prawf gan gynnwys y Swydd ei hun, dyddiadau dechrau a gorffen (dewiswch ‘Dyddiadau i’w Penderfynu’ os yw’r dyddiadau’n hyblyg), y patrwm shifft a’r pwnc.

***Os am logi Athro / Athrawes Gyflenwi Gynradd, dewiswch ‘Athro / Athrawes Gynradd’ fel Pwnc.***

Ychwanegwch unrhyw brofiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd ei angen, yna dewis ‘Chwilio am Athrawon’.

Gallwch yna naill ai wahodd pawb sy’n cwrdd â’ch gofynion neu, i ddewis athrawon unigol, cliciwch ar yr opsiwn oren ‘Dewis eich Hun’.

Os cliciwch Dewis eich Hun, gallwch ddefnyddio’r bar chwilio i ddod o hyd i athrawon unigol i’w gwahodd.

Ar ôl dewis eich gwahoddedigion, cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Ewch i Rhagolwg Swydd’ ar waelod y sgrîn. Byddwch yna’n mynd i’r dudalen Rhagolwg Swydd lle y gallwch ychwanegu mwy o fanylion am y swydd, gan gynnwys geirda mewnol, pam fod angen y swydd, dyddiad / amser Dod i Ben y Cynnig (pryd fydd y swydd yn stopio derbyn ceisiadau), cyfarwyddiadau ar ble ac i bwy i adrodd, a swydd-ddisgrifiad.

Anfon Gwahoddiadau

Yn olaf, pwyswch ‘Anfon Gwahoddiadau’ ar waelod y sgrîn i bostio eich swydd i’ch ymgeiswyr. Byddant yna’n derbyn e-bost a neges destun yn eu hysbysu o’r swydd ynghyd â dolen i fewnlofnodi er mwyn gallu Ymgeisio / Gwrthod y gwahoddiad.

Did this answer your question?