Fetio

Sut mae llwytho dogfennau i fyny i’ch proffil

James Lipscombe avatar
Written by James Lipscombe
Updated over a week ago

Mae Teacher Booker yn caniatáu i chi storio dogfennau’n ddiogel fel rhan o’n modiwl Cydymffurfio. Dim ond gweinyddwyr eich cronfa sy'n gallu cael gafael ar unrhyw ddogfen rydych chi'n ei llwytho i fyny.

I fynd i’ch tudalen ‘Fetio’, dewiswch Fetio o’r bar llywio. Os ydych chi'n aelod o sawl cronfa, gallwch ddewis i ba gronfa yr hoffech fynd.

Mae llefydd i chi lwytho dogfennau i fyny ar gyfer y meysydd cydymffurfio canlynol:

  • CV

  • Tystysgrif DBS

  • Cymwysterau a thystysgrifau

  • Yr hawl i weithio

  • Prawf o gyfeiriad

  • ID llun

  • Manylion canolwr

I ychwanegu dogfen, cliciwch ‘Llwytho i fyny’ wrth ymyl yr adran gywir, dewis y ffeil o’ch cyfrifiadur a’i hagor, yna clicio ‘Llwytho i fyny’. Yna, byddwch chi’n cael cadarnhad bod eich dogfen wedi'i llwytho i fyny’n llwyddiannus.

Ar ôl i chi lwytho dogfen i fyny, byddwch chi’n gweld faint o ffeiliau rydych chi wedi’u llwytho i fyny ar waelod yr adran berthnasol. Yna bydd eich sefydliad yn adolygu'r dogfennau hynny ac efallai y byddwch chi’n gweld y statws canlynol:

  • Wedi’i derbyn

  • Wedi’i gwrthod - bydd unrhyw adborth yn cael ei roi mewn coch i ddweud wrthych pa gamau y mae angen i chi eu cymryd.

Ar ôl i ddogfen gael ei derbyn, does dim modd llwytho unrhyw ddogfennau ychwanegol i fyny i'r adran honno.

I gael gwybod mwy, gwyliwch ein detholiad o fideos cymorth yn yr adran 'Y Broses Fetio' neu cliciwch ar y dolenni isod:

Did this answer your question?