Sut i Greu Tudalen Proffil Llwyddiannus
Dani Fa avatar
Written by Dani Fa
Updated over a week ago

Enghraifft o grynodeb personol

Fel ymarferydd cyfeillgar, hyblyg ac addasadwy, credaf yn gryf fod plant yn dysgu'n fwyaf effeithiol pan fo'r gwaith yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn gwahaniaethu er mwyn bodloni eu hanghenion unigol. Yn y dosbarth, darparaf gyfle i gwricwlwm amrywiol gyda chydbwysedd rhwng gweithgareddau ymarferol ac academaidd, a fydd yn gwella meddyliau ymholiadol y plant ac yn helpu i gael hyder yn eu gallu eu hunain. Rwy'n anelu at addysgu mewn amrywiaeth o ardduliau gan ddefnyddio dulliau a ffynonellau gwahanol sy'n helpu i ysgogi ac ysbrydoli'r dysgu gorau posibl. Rwy'n defnyddio addysgu dosbarth cyfan yn ogystal a gwaith grŵp ac unigol, yn dibynnu ar anghenion y disgyblion. Rwy'n ceisio cyflwyno amgylchedd sy'n ysgogol, deniadol ac yn ddiogel lle byddaf yn cyflwyno delweddau cadarnhaol i’r plant o’u hunain a'u diwylliant. Rwy'n hyrwyddo atgyfnerthu cadarnhaol ar gyfer ymddygiad da ac yn sicrhau bod y plant yn cydweithio ar ddyfeisio cod ymddygiad dosbarth . Rwy'n mwynhau gwrando ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth a gallaf addysgu gwersi offeryn recorder. Rwy'n mwynhau cerdded yn fy amser hamdden ac yn ei ddefnyddio fel modd o dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.

Did this answer your question?