Skip to main content
All CollectionsPwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru
Pwysig: Gwybodaeth Angenrheidiol ar Gyfer Gwiriadau Diweddaru DBS
Pwysig: Gwybodaeth Angenrheidiol ar Gyfer Gwiriadau Diweddaru DBS
Karen Beynon avatar
Written by Karen Beynon
Updated over a week ago

Yn ystod y broses fetio, rydym yn cynnal gwiriad Gwasanaeth Diwedddaru DBS.

Rydym yn cynnal y gwiriadau hyn ar ddechrau’r broses fetio, ac wedyn yn flynyddol i sicrhau eu bod yn gyfredol.

Er mwyn sicrhau cynnal y gwiriadau yn gywir. Byddai’n ddefnyddiol pe bai’r wybodaeth isod yn cael ei fewnbynnu yn gywir, a hynny mor gynnar â phosibl yn ystod y broses ymgeisio.

  • Cyfenw

Sicrhewch eich bod wedi ei sillafu’n gywir pan yn nodi yn eich proffil, os gwelwch yn dda.

  • Dyddiad Geni

Pan yn nodi eich dyddiad geni, gwnewch yn siwr eich bod yn nodi’r digidau cywir yn y drefn cywir e.e. diwrnod/mis/blwyddyn. Dylai hyn ddilyn fformat

_ _/_ _/_ _ _ _. Er enghraifft, os cawsoch eich geni ar Ragfyr y 9fed 1968, byddwch yn nodi 09/12/1968.

  • Rhif Tystysgrif DBS

Yn eich proffil, mae adran i chi gynnwys statws eich DBS.

Os cliciwch ar y ddewislen ostwng, byddwch yn gweld yr opsiynau canlynol:

Dewisiwch yr opsiwn sydd yn berthnasol i chi.

Cliciwch ar ‘Does gen i ddim tystysgrif DBS gyfredol’ os:

  • NAD ydych ar y Gwasanaeth Diweddaru DBS

  • NAD oes gennych dystysgrif DBS Uwch wedi ei gyhoeddi o fewn y 12 mis diwethaf

Yn ystod y cam hwn, bydd aelod o’n Tîm Cydymffyrfio mewn cysylltiad i roi cyngor i chi ar y camau nesaf.

Cliciwch ar ‘Copi Papur’ os:

  • NAD ydych ar y Gwasanaeth Diweddaru DBS

  • OES gennych dystysgrif DBS Uwch wedi ei gyhoeddi o fewn y 12 mis diwethaf

Dyma’r dystysgrif y dylid uwchlwytho i’ch proffil ar gyfer fetio.

Cliciwch ar ‘Gwasanaeth copi papur a diweddaru’ os:

  • YDYCH ar y Gwasanaeth Diweddaru DBS

  • YDYCH yn berchen ar dystysgrif DBS Uwch (efallai y bydd wedi ei gyhoeddi mwy na 12 mis yn ôl, yn ddibynnol pryd y cofrestrwyd ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru)

Uwchlwythwch y dystysgrif hon i’ch proffil ar gyfer fetio.

Os ydych wedi dewis yr ail neu drydedd opsiwn, ychwanegwch rif y dystysgrif i’r adran Rhif DBS. Gallwch ddarganfod y rhif yma yn y gornel dde uchaf o’ch tystysgrif,

Os gwelwch yn dda, PEIDIWCH a uwchlwytho tystysgrif DBS Sylfaenol, gan nad ydym yn gallu derbyn unrhyw beth heblaw am dystysgrif DBS Uwch.

Did this answer your question?