Skip to main content
All CollectionsPwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru
Gwybodaeth Pwysig Angenrheidiol ar gyfer Gwiriadau Cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Gwybodaeth Pwysig Angenrheidiol ar gyfer Gwiriadau Cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Karen Beynon avatar
Written by Karen Beynon
Updated over 7 months ago

Gwybodaeth Pwysig Angenrheidiol ar gyfer Gwiriadau Cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Fel rhan o’n proses fetio parhaus, mae’n angenrheidiol i ni gynnal gwiriadau cyson gyda asiantaethau allanol. Mae’r gwiriadau yma yn cynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg i Gymru (CGA).

Cofrestru CGA

Er mwyn i’r CGA gadarnhau cofrestriad ymgeisydd, maen’t yn gofyn am y wybodaeth canlynol:

  • Enw

  • Dyddiad Geni

  • Rhif Yswiriant Gwladol (NI)

  • Rhif Cofrestru (EWC) / Cyfeirnod Athro (TRN)

Er mwyn cynnal y gwiriadau yn gywir, byddai’n ddefnyddiol os yw’r gwybodaeth isod i gyd yn cael ei nodi’n gywir, ac mor fuan phosibl yn ystod y broses ymgeisio.

  • Enw

Pan fyddwch yn nodi eich enw yn eich proffil, defnyddiwch yr enw cyntaf a'r cyfenw sydd ar eich dogfennau cyfreithiol, a’r enw rydych wedi defnyddio i gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Sicrhewch eich bod yn nodi’r enwau’n gywir gan na fyddwch yn gallu newid rhain unwaith y byddwch wedi arbed eich manylion. Hefyd, os nodir yr enwau'n anghywir, ni fyddwn yn gallu dod o hyd i chi ar restr gofrestru’r CGA a bydd hyn yn oedi eich proses ymgeisio.

  • Dyddiad Geni

Pan yn nodi eich dyddiad geni, gwnewch yn siwr eich bod yn nodi’r digidau cywir yn y drefn cywir e.e. diwrnod/mis/blwyddyn. Dylai hyn ddilyn fformat

_ _/_ _/_ _ _ _. Er enghraifft, os cawsoch eich geni ar Ragfyr y 9fed 1968, byddwch yn nodi 09/12/1968.

  • Rhif Yswiriant Gwladol (NI number)

Mae’r CGA angen eich Rhif Yswiriant Gwladol pan yr ydym yn cynnal gwiriadau cadarnhad cofrestru. Byddwch angen nodi eich Rhif Yswiriant Gwladol yn eich proffil er mwyn i’ch dogfennau gael eu derbyn. Os nad ydych yn nodi eich Rhif Yswiriant Gwladol, bydd hyn yn oedi eich proses ymgeisio.

Bydd y ddolen isod yn eich cyfeirio at wefan CThEM (HMRC). Yma, gallwch weld ble i ddarganfod eich Rhif Yswiriant Gwladol, a sut i ymgeisio am un os nad ydych yn berchen ar un yn barod.

  • Rhif Cyfeirnod Athro (TRN)

Os ydych yn athro/athrawes, mae CGA yn gofyn am eich Rhif Cyfeirnod Athro TRN pan yn cynnal gwiriadau cadarnhau cofrestru.

Os gwelwch yn dda, rydym yn gofyn i chi nodi eich TRN mor gynnar a phosibl yn y broses ymgeisio, er mwyn osgoi unrhyw oedi pan yn derbyn eich dogfennau ac yn eich gosod yn fyw.

Bydd y ddolen isod yn eich cyfeirio at wefan CThEM (HMRC). Yma, gallwch ddysgu ble i ddarganfod eich Rhif Cyfeirnod Athro (TRN) a sut i’w ddefnyddio,

Os ydych yn ymgeisio fel Cymhorthydd Dysgu, Cymhorthydd Dysgu Lefel Uwch, neu Goruchwyliwr Cyflenwi, nid ydych angen TRN, felly gadewch yr adran yma yn wag, os gwelwch yn dda.

Did this answer your question?