Rhewi fy nghynigion swydd

Sut mae rhewi eich cynigion am swyddi dros dro

James Lipscombe avatar
Written by James Lipscombe
Updated over a week ago

Rydyn ni’n deall y gall fod rhai newidiadau i’ch amgylchiadau sy’n golygu eich bod chi ddim ar gael ar gyfer gwaith llanw am gyfnod. Wrth ddefnyddio’r swyddogaeth ‘Rhewi fy nghynigion swydd’, ni fyddwch chi’n ymddangos mewn chwiliadau swyddi nac yn cael hysbysiadau yn ystod y cyfnodau estynedig nad ydych chi ar gael i weithio, heb ddileu eich cyfrif.


Os byddwch chi’n rhewi eich argaeledd, bydd gofyn i chi roi rheswm pam nad ydych chi ar gael. Mae hyn yn helpu darparwr gwasanaeth y Gronfa Dalent i fonitro argaeledd ar draws y llwyfan a gwella ei wasanaeth i chi. Ar ôl i chi rewi eich argaeledd, ni fyddwch chi’n ymddangos mewn unrhyw chwiliadau a wneir ar y system.


I ddad-rewi eich cynigion swydd, cliciwch ‘Ailddechrau fy nghynigion swydd’ a fydd yn caniatáu i chi ymddangos mewn chwiliadau swyddi ar ôl hynny.


Sylwch na fyddwch chi’n cael eich gwahodd yn awtomatig i swyddi sydd wedi’u hysbysebu yn y gorffennol, oni bai fod yr ysgol yn chwilio eto ar ôl i chi ddad-rewi eich argaeledd. O ganlyniad, byddem yn argymell eich bod chi’n dad-rewi ychydig wythnosau cyn i chi fod yn barod i ailddechrau gweithio.

Did this answer your question?