Rheoli eich argaeledd

Rhoi gwybod i ni os nad ydych chi ar gael ar gyfer gwaith

James Lipscombe avatar
Written by James Lipscombe
Updated over a week ago

Mewngofnodwch a chlicio ‘Argaeledd’ yn y ddewislen ar yr ochr chwith. Byddwch chi’n gweld calendr. Yma, gallwch nodi eich bod chi ddim ar gael am ddiwrnod cyfan neu ran o ddiwrnod. Cliciwch a llusgo i ddangos eich bod chi ddim ar gael am sawl diwrnod neu rewi eich argaeledd heb osod dyddiadau drwy glicio'r botwm coch ar frig y sgrin.


Nodi eich bod chi ddim ar gael am ddiwrnod cyfan.

Cliciwch ar y diwrnod a chlicio cadarnhau yn y ffenestr naid


Nodi eich bod chi ddim ar gael am ran o ddiwrnod

Ar ôl clicio ar y diwrnod cywir, cliciwch y blwch ticio ‘Dewis ystod oriau’ yn y ffenestr naid. Bydd hyn yn eich galluogi i roi amser dechrau a gorffen eich absenoldeb i'r funud. Os oes patrwm o ran pryd nad ydych chi ar gael, ticiwch ‘ailadrodd digwyddiad’ a nodi’r dyddiad olaf nad ydych chi ar gael.


Drwy nodi nad ydych chi ar gael ar ddiwrnod neu amser penodol, ni fyddwch chi’n ymddangos mewn canlyniadau chwilio ar gyfer swyddi sy’n cynnwys yr amser hwnnw, ac ni fyddwch chi’n cael gwahoddiad ar gyfer y swyddi hyn chwaith.


Sylwch y gall ysgol ddewis hysbysebu swydd gyda'r dyddiadau i'w pennu. Os yw hyn yn wir a’ch bod yn bodloni’r meini prawf, byddwch chi’n cael eich gwahodd i’r swydd hyd yn oed os ydych chi wedi nodi eich bod chi ddim ar gael. Mae hyn er mwyn sicrhau bod athrawon yn cael eu gwahodd i swyddi na fyddai fel arall yn addas ar gyfer eu hargaeledd a bod modd trafod dyddiadau yn nes ymlaen.


Tynnu hysbysiad eich bod chi ddim ar gael

Os ydych chi am ddileu digwyddiad rydych chi wedi'i greu o'r blaen yn nodi eich bod chi ddim ar gael, cliciwch y bloc coch (clicio a dal os ydych chi ar ddyfais symudol) a chlicio Golygu os ydych chi am newid rhan o’r digwyddiad neu Dileu os ydych chi am ei dynnu'n gyfan gwbl.

Did this answer your question?