Ymgeisio am Swydd Gyflenwi

Ar gyfer athrawon cyflenwi a staff cymorth: beth i’w wneud ar ôl derbyn gwahoddiad swydd.

James Lipscombe avatar
Written by James Lipscombe
Updated over a week ago

Pan dderbyniwch wahoddiad swydd drwy e-bost neu neges destun, gofynnir i chi fewnlofnodi ac ymateb i’r gwahoddiad. Wrth fewnlofnodi, bydd y gwahoddiad swydd yn ymddangos o dan ‘Swyddi a Wahoddwyd’ ar eich dangosfwrdd.

Cofiwch fod dyrannu swydd yn broses dau gam – yn gyntaf, byddwch yn cael gwahoddiad i Ymgeisio, yna os cewch eich dewis byddwch yn derbyn Cynnig. Os oes gan swydd ddyddiad / amser dechrau penodol, rhaid i chi ymateb i’r Cynnig Swydd CYN y dyddiad a’r amser hwn neu bydd y swydd yn dod i ben.

Ni fyddwch wedi cael eich archebu nes y byddwch wedi Derbyn Cynnig a hyn wedi’i ddangos yn glir ar eich dangosfwrdd fel ‘Wedi Cael Eich Archebu’.

Cliciwch ar y botymau ar ben eich sgrîn i lywio rhwng gwahanol rannau o’r dangosfwrdd:

Bydd y swydd i’w gweld yn eich rhestr swyddi a wahoddwyd, fel isod. Cliciwch ar ‘Cael Cyfarwyddiadau’ i agor Google Maps a gweld y ffordd i’r ysgol. I ymateb i’r gwahoddiad, cliciwch ar ‘Gweld Manylion’.

Wrth glicio ar ‘Gweld Manylion’, fe welwch fanylion llawn y swydd a gallwch ddewis Ymgeisio / Gwrthod y gwahoddiad.

Wrth Ymgeisio, bydd bar statws y swydd yn newid i oren a naidlen yn cadarnhau y derbyniwyd eich cais.

Os yw’r ysgol yn dewis Cynnig y swydd i chi, byddwch yn derbyn e-bost i’ch hysbysu o hyn ac yn gofyn i chi fewnlofnodi a Derbyn / Gwrthod y Cynnig. Wrth fewnlofnodi, cliciwch ar Gweld Manylion ar y swydd eto a bydd y statws wedi newid i ‘Wedi cynnig y swydd i chi’ a bydd y botymau rŵan yn ‘Derbyn’ neu’n ‘Gwrthod’. Rhaid Derbyn y Cynnig i gael eich archebu; os oes gan swydd ddyddiad / amser dechrau penodol, rhaid Derbyn cyn y dyddiad / amser hwn neu bydd y swydd yn dod i ben ac ni chewch eich archebu.

Os byddwch yn Derbyn y Swydd, bydd angen Cadarnhau eich dewis:

Cofiwch y bydd eraill efallai wedi cael cynnig y swydd ac ni fyddwch wedi cael eich archebu nes gwelwch y statws ‘Wedi eich archebu’ ar ben y cerdyn swydd:

Did this answer your question?